CWESTIYNAU
Pa fanteision sydd i fy mhlentyn o fod yn ddwyieithog?
Mae nifer o fanteision. Er enghraifft:
Mae ymchwil yn dangos fod plant sy'n deall mwy nag un iaith yn
gallu meddwl yn fwy creadigol a hyblyg
Mae manteision economaidd pendant o fod yn ddwyieithog, yn enwedig
pan fydd rhywun yn chwilio am swydd yng Nghymru
Mae'n gallu helpu i bontio rhwng cenedlaethau, os oes aelodau hyn
o'r teulu yn siarad Cymraeg
Gall person dwyieithog siarad â chylch ehangach o bobl na
pherson sydd ddim ond yn siarad un iaith
Mae'n cynnig y cyfle i brofi dau ddiwylliant gwahanol a dau fyd
o brofiadau
Gall helpu pobl i deimlo'n rhan o Gymru a chynyddu'r teimlad o
berthyn
Mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith mae'n golygu gallu cyfrannu'n
lawn i bob agwedd ar fywyd y gymuned leol
Sut ydyn ni'n cynnal Cymraeg yn y cartref os mai dim ond un partner
sy'n siarad Cymraeg?
Mae hon yn sefyllfa gyffredin yng Nghymru
o safbwynt Cymraeg a Saesneg. Mae'n gyffredin hefyd mewn llawer iawn
o wledydd ar draws y byd lle mae dwy neu fwy o ieithoedd yn cael eu
siarad. Y cam cyntaf yw penderfynu eich bod eisiau magu'ch plentyn
yn ddwyieithog. Mae'n bwysig wedyn fod y rhiant sy'n gallu siarad
Cymraeg yn dal i siarad Cymraeg cymaint ag y gall yn y cartref. Bydd
y plentyn wedyn yn gyfarwydd â chlywed y ddwy iaith.
Fydd fy mhartner yn teimlo allan ohoni?
Does dim rhaid i'r partner sydd ddim yn siarad Cymraeg deimlo allan
ohoni. Mae plant wrth eu bodd yn esbonio i'r partner arall beth sy'n
cael ei ddweud yn Gymraeg! Dyma un o brif sgiliau person dwyieithog,
sef y gallu i symud syniadau a gwybodaeth o un iaith i'r llall yn
ddidrafferth. Fe fydd eich plentyn chi'n gallu gwneud hyn mewn dim
o dro ac fe fyddwch chi wrth eich bodd yn ei glywed yn gwneud hynny.
Dw i ddim yn hyderus iawn yn siarad Cymraeg
Os ydych chi'n siarad Cymraeg mae'n ddigon posibl y bydd eich tad
a'ch mam a pherthnasau eraill yn gallu eich helpu drwy siarad Cymraeg
â'ch plant chi; yn sicr mae mamgu a thadcu neu taid a nain yn
gallu bod yn ddylanwad cryf. Ac wrth gwrs, drwy siarad Cymraeg fe
fydd eich plant yn sefydlu perthynas glos â nhw mewn iaith sy'n
perthyn i'ch teulu chi.
Oes cefnogaeth arall i'w gael?
Gallwch hefyd gyflwyno gweithgareddau cyfrwng Cymraeg eraill i'ch
plentyn yn y cartref. Er enghraifft:
Gwylio rhaglenni Cymraeg ar y teledu gyda'ch gilydd
Dod o hyd i lyfrau, casetiau a fideos Cymraeg ardderchog sydd ar
gael i blant.
A yw plant yn cymysgu rhwng y ddwy iaith?
Mae'n gyffredin iawn clywed plant bach yn cymysgu'r ddwy iaith yn
y cyfnod cynnar, ond does dim rhaid i chi boeni am hynny. Mae clywed
swn y ddwy iaith o oedran cynnar iawn yn fanteisiol i blant. Cyn hir
byddan nhw'n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng y ddwy iaith ac yn siarad
â chi yn yr iaith rydych chi'n siarad â nhw.
Sut gall fy mhartner helpu fy mhlentyn os nad yw'n siarad Cymraeg?
Yn bennaf trwy fod yn hapus eich bod chi'n siarad Cymraeg a'ch plentyn,
ond hefyd drwy gyrnryd diddordeb ym mhob agwedd o fywyd eich plentyn.
Does dim rheswm pam na ddylai eich partner ddarllen i'ch plentyn a
siarad am bopeth mae'n ei wneud yn yr iaith y mae'n fwyaf cyfforddus
ynddi. Yn wir, gallai fod o help mawr i'ch plentyn drafod yn Saesneg
gyda'ch partner yr hyn mae'n ei ddysgu yn Gymraeg. Gall eich partner
ystyried mynd i wersi dysgu Cymraeg er mwyn gallu dod i siarad Cyrnraeg
â'ch plentyn.
Pam ddylen ni boeni am siarad Cymraeg gartref os gall fy mhlentyn
ddysgu Cymraeg yn yr ysgol?
Mae gan y cartref rôl hynod o bwysig o safbwynt cyflwyno iaith
i blant. Yn y cartref mae plant yn dysgu holl gyfoeth iaith. Dyma'r
lle mwyaf naturiol mewn gwirionedd i ddysgu iaith. Fel gyda dysgu
pob iaith, gorau po gyntaf mae plentyn yn clywed yr iaith ac yn dechrau
ei defnyddio hi mewn sgyrsiau bob dydd gyda rhieni a pherthnasau.
Chi fel rhiant sy'n gallu cyflwyno iaith yn y ffordd fwyaf naturiol
posibl fel rydych chi'n cyflwyno'r holl sgiliau eraill i'ch plentyn.
Mae'n bwysig wrth gwrs fod gennych chi agwedd bositif tuag at yr iaith
a'ch bod chi'n dangos hynny i'ch plentyn. Fe wnaiff eich plentyn yn
aml iawn ddangos yr un agwedd tuag at bethau ag y gwnewch chi. Dangoswch
eich bod chi'n mwynhau siarad Cymraeg ac fe wnaiff eich plentyn hefyd
wneud hynny.
Ydi Cymraeg yn iaith anodd i'w dysgu?
Nag ydi! Mewn awyrgylch cefnogol gall unrhyw blentyn ddysgu siarad
Cymraeg yn rhwydd fel mae plant yn gallu dysgu unrhyw iaith pa mor
gymhleth bynnag yw'r iaith honno.
Dw i'n hoffi darllen gyda fy mhlentyn. Sut gall rhieni wneud hyn
os nad ydyn nhw'n rhugl yn Gymraeg?
Does dim rheswm yn y byd pam na allwch chi ddarllen yn Saesneg i'ch
plant a'u hannog nhw i ddarllen yn Saesneg hefyd. 0 ran eich plentyn,
wedi iddo ddysgu darllen bydd yn gallu trosglwyddo'r sgil o Gymraeg
i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg yn rhwydd.
Fydd dysgu dwy iaith yn effeithio ar Saesneg fy mhlentyn?
Mae ymchwil yn dangos fod gallu siarad a defnyddio mwy nag un iaith
yn gwella gallu plentyn i ddefnyddio a dysgu ieithoedd yr gyffredinol.
Mae plant yn gallu dysgu am rywbeth mewn un iaith a siarad amdano
mewn iaith arall.
Mae canlyniadau diweddar hefyd yn awgrymu fod plant sy'n derbyn addysg
ddwyieithog yn gallu gwneud yn well mewn pynciau ar draws y cwricwlwm
- gan gynnwys Saesneg!
Fyddai hi'n well i blentyn ddysgu iaith mwy 'defnyddiol' fel Ffrangeg,
Almaeneg neu Sbaeneg?
Bu twf yn y defnydd o Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus Cymru
a chynnydd yr y cyfleoedd am swyddi lle mae argen Cymraeg fel sgil.
Felly, mae'r gallu i siarad Cymraeg yn dod yr fwy a mwy defnyddiol
wrth chwilio am swyddi. Mae angen pobl sy'n gallu gweithio'r y ddwy
iaith ym mhob rhan o Gymru.
"Diwylliant y gorffennol yw'r diwylliant Cymraeg!"
Mae gan yr iaith Gymraeg hanes hir a chyfoethog, mae'n wir. Ond mae
hi hefyd yn iaith gyfoes a bywiog sy'n edrych tua'r dyfodol. Mae'n
iaith sydd yn cael ei defnyddio gan aelodau'r Cynulliad yng Nghaerdydd.
Mae gennym ni sianel ddigidol sy'n darlledu yn y Gymraeg am 12 awr
y dydd. Mae safleoedd Cymraeg ar y We a rhaglenni CD-Rom yn y Gymraeg
hefyd.
Mae Cymraeg yn iaith sydd wedi goroesi drwy'r canrifoedd ac mae'r
adfywiad rydym ni wedi ei weld yr ystod ail hanner yr 2O fed ganrif
yn sicrhau y bydd hi'n datblygu eto ac yn iaith y gall pawb fod yr
falch ohoni.
2005 © YSGOL GYMRAEG LLUNDAIN